Salm 96 beibl.net 2015 (BNET)

Duw sy'n teyrnasu dros bopeth

1. Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD.Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD!

2. Canwch i'r ARGLWYDD! Canmolwch ei enw,a dweud bob dydd sut mae e'n achub.

3. Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.

4. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli!Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.

5. Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd,ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd!

6. Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg;mae ei gryfder a'i harddwch yn ei deml.

7. Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch!Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!

8. Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!Dewch i'w deml i gyflwyno rhodd iddo!

9. Plygwch i addoli'r ARGLWYDDsydd mor hardd yn ei gysegr!Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!

10. Dwedwch ymysg y cenhedloedd,“Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”Felly mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.Bydd e'n barnu'r byd yn deg.

11. Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen!Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi!

12. Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen

13. o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dod –mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!Bydd yn barnu'r byd yn hollol deg,a'r bobloedd i gyd ar sail beth sy'n wir.