Salm 114 beibl.net 2015 (BNET)

Cân y Pasg

1. Pan aeth pobl Israel allan o'r Aifft –pan adawodd teulu Jacob y wladlle roedden nhw'n siarad iaith estron –

2. daeth Jwda yn dir cysegredig,ac Israel yn deyrnas iddo.

3. Dyma'r Môr Coch yn eu gweld nhw'n dodac yn symud o'r ffordd.Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl.

4. Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod,a'r bryniau yn prancio fel ŵyn.

5. Beth wnaeth i ti symud o'r ffordd, fôr?Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen?

6. Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd?Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau?

7. Cryna, ddaear, am fod yr ARGLWYDD yn dod!Mae Duw Jacob ar ei ffordd!

8. Y Duw wnaeth droi'r graig yn bwll o ddŵr.Do, llifodd ffynnon ddŵr o garreg fflint!