1. Mae'r nefoedd yn dangos ysblander Duw,a'r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.
2. Mae'r neges yn mynd allan bob dydd;mae i'w weld yn amlwg bob nos!
3. Does dim llais go iawn, na geiriau,na dim i'w glywed yn llythrennol.
4. Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud;a'r neges wedi mynd i ben draw'r byd!Cododd babell i'r haul yn yr awyr.
5. Mae'n dod allan fel priodfab o'i ystafell;neu athletwr yn frwd i redeg ras.
6. Mae'n codi ar y gorwel,ac yn symud o un pen i'r llall.Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.
7. Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith –mae'n rhoi bywyd newydd i mi!Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glirac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.
8. Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy'n iawnac yn gwneud y galon yn llawen.Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn burac yn ein goleuo ni.
9. Mae'r gorchymyn i barchu'r ARGLWYDD yn glirac yn aros bob amser.Mae dyfarniad yr ARGLWYDD yn gywir –mae e'n gwbl deg bob amser.
10. Mae'r pethau yma'n fwy gwerthfawr nag aur –ie, llwythi o aur coeth!Maen nhw'n felysach na'r mêlsy'n diferu o'r diliau.
11. Ydyn, maen nhw'n rhoi goleuni i dy was;ac mae gwobr fawr i'r rhai sy'n ufuddhau.
12. Ond pwy sy'n gweld ei feiau ei hun?O, maddau i mi pan dw i'n pechu heb yn wybod,
13. a cadw fi rhag pechu'n fwriadol.Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i.Yna byddaf yn ddi-fai,a dieuog o droseddu yn dy erbyn.
14. Gad i'r cwbl dw i'n ei ddweud a'i feddwldy blesio di,O ARGLWYDD, fy nghraig a'm hachubwr.