Salm 60 beibl.net 2015 (BNET)

Gweddi am help Duw yn y frwydr

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Lili'r Dystiolaeth”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd (i'w dysgu), pan oedd yn ymladd yn erbyn Syriaid Gogledd Mesopotamia a Syriaid Soba, a Joab yn dod yn ôl ac yn gorchfygu Edom – byddin o ddeuddeg mil – yn Nyffryn yr

1. O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod nia bylchu ein hamddiffyn.Buost yn ddig gyda ni.Plîs adfer ni!

2. Gwnaethost i'r tir grynu,a'i hollti'n agored.Selia'r holltau, cyn i'r cwbl syrthio!

3. Ti wedi rhoi amser caled i dy bobl;a rhoi gwin i'w yfed sydd wedi'n gwneud ni'n chwil.

4. Coda faner i'r rhai sy'n dy ddilynallu dianc ati rhag saethau'r bwa. Saib

5. Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb nier mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.

6. Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,a mesur dyffryn Swccoth.

7. Fi sydd piau Gileada Manasse hefyd.Effraim ydy fy helmed i,a Jwda ydy'r deyrnwialen.

8. Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,ac yn dathlu ar ôl gorchfygu Philistia!”

9. Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel?Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?

10. Onid ti, O Dduw?Ond rwyt wedi'n gwrthod ni!Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?

11. Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn,achos dydy help dynol yn dda i ddim.

12. Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion –bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!