Salm 54 beibl.net 2015 (BNET)

Gweddi am amddiffyn rhag y gelyn

I'r arweinydd cerdd: Mascîl i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm gan Dafydd, pan aeth pobl Siff at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd yn cuddio gyda ni.”

1. O Dduw, tyrd ac achub fi!Amddiffyn fi gyda dy holl nerth.

2. O Dduw, gwrando ar fy ngweddi!Clyw beth dw i'n ddweud.

3. Mae pobl estron wedi troi yn fy erbyn i.Mae dynion creulon am fy lladd i.Does dim bwys ganddyn nhw am Dduw. Saib

4. Ond Duw ydy'r un sy'n fy helpu i.Yr ARGLWYDD sy'n fy nghadw i'n fyw.

5. Tro fwriadau drwg y gelynion yn eu herbyn!Dinistria nhw, fel rwyt wedi addo gwneud.

6. Wedyn bydda i'n dod ag offrwm gwirfoddol i'w aberthu i ti.Bydda i'n moli dy enw di, ARGLWYDD, am dy fod mor dda!

7. Ie, rwyt yn fy achub o'm holl drafferthion;dw i'n gweld fy ngelynion yn cael eu gorchfygu!