Salm 62 beibl.net 2015 (BNET)

Y Duw sy'n ein cadw'n saff

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Cyffes". Salm Dafydd.

1. Ydw, dw i'n disgwyl yn dawel am Dduw;fe ydy'r un all fy achub i.

2. Ie, fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.

3. Pryd ydych chi'n mynd i stopio ymosod ar ddyn?Ymosod arno i'w ddifa fel wal sydd ar fin syrthio,neu ffens sy'n simsan?

4. Ydyn, maen nhw'n cynllunio i'w fwrw i lawro'i safle dylanwadol.Maen nhw wrth eu boddau gyda chelwydd;maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig,ond yn ei felltithio yn eu calonnau. Saib

5. Ie, disgwyl di'n dawel am Dduw, fy enaid,achos fe ydy dy obaith di.

6. Fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.

7. Mae Duw'n edrych ar ôl fy lles i,ac mae'n rhoi nerth i mi.Dw i'n gadarn fel y graig,ac yn hollol saff gyda Duw.

8. Gallwch ei drystio fe bob amser, bobl!Tywalltwch beth sydd ar eich calon o'i flaen.Duw ydy'n hafan ddiogel ni. Saib

9. Dydy pobl gyffredin ddim byd ond anadl;a pobl bwysig yn ddim ond rhith!Rhowch nhw ar glorian ac mae hi'n codi! –maen nhw i gyd yn pwyso llai nag anadl.

10. Peidiwch trystio trais i ennill cyfoeth.Peidiwch rhoi'ch gobaith mewn lladrad.Os ydych chi'n ennill cyfoeth mawrpeidiwch dibynnu arno.

11. Un peth mae Duw wedi ei ddweud,ac mae wedi ei gadarnhau:Duw ydy'r un nerthol,

12. Ie ti, O ARGLWYDD, ydy'r un ffyddlon,sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu.