Salm 36 beibl.net 2015 (BNET)

Drygioni pobl a daioni Duw

I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, gwas yr ARGLWYDD. Oracl.

1. Mae'r duedd i droseddu yn ddwfn yng nghalon un drwg;does ganddo ddim parch at Dduw o gwbl.

2. Mae e mor llawn ohono'i hun, mae'n ddallac yn methu gweld y drygioni i'w gasáu.

3. Mae popeth mae e'n ddweud yn ddrwg ac yn dwyllodrus;dydy e'n poeni dim am wneud daioni.

4. Mae e'n gorwedd ar ei wely yn cynllwynio;mae e'n dilyn llwybr sydd ddim yn dda,ac yn gwrthod troi cefn ar ddrygioni.

5. O ARGLWYDD, mae dy ofal cariadus yn uwch na'r nefoedd;mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i'r cymylau!

6. Mae dy haelioni di mor gadarn a'r mynyddoedd uchel;mae dy gyfiawnder yn ddwfn fel y moroedd.Ti'n gofalu am bobl ac anifeiliaid, ARGLWYDD.

7. Mae dy ofal cariadus mor werthfawr, O Dduw!Mae'r ddynoliaeth yn saff dan gysgod dy adenydd.

8. Maen nhw'n cael bwyta o'r wledd sydd yn dy dŷ,ac yn cael yfed dŵr dy afon hyfryd di.

9. Ti ydy'r ffynnon sy'n rhoi bywyd;dy olau di sy'n rhoi'r gallu i ni weld.

10. Dal ati i ofalu am y rhai sy'n ffyddlon i ti,ac achub gam y rhai sy'n byw'n gywir.

11. Paid gadael i'r rhai balch fy sathru dan draed,nac i'r rhai drwg fy ngwneud i'n ddigartref.

12. Dw i'n gweld y rhai sy'n gwneud drygioni wedi syrthio!Dacw nhw wedi eu bwrw i lawr! Maen nhw'n methu codi!