Salm 46 beibl.net 2015 (BNET)

Mae Duw gyda ni!

I'r arweinydd cerdd. Cân i leisiau merched ifanc, gan feibion Cora.

1. Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni.Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion.

2. Felly fydd gynnon ni ddim ofnhyd yn oed petai'r ddaear yn ysgwyd,a'r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr

3. gyda'i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu.Mae'r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo! Saib

4. Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen.Ie, y ddinas lle mae'r Duw Goruchaf yn byw.

5. Mae Duw yn ei chanol – fydd hi byth yn syrthio!Bydd Duw yn dod i'w helpu yn y bore bach.

6. Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio.Pan mae Duw yn taranu mae'r ddaear yn toddi.

7. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni!Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib

8. Dewch i weld beth mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud;y difrod rhyfeddol mae wedi ei ddwyn ar y ddaear!

9. Mae'n dod a rhyfeloedd i ben drwy'r ddaear gyfan;Mae'n malu'r bwa ac yn torri'r waywffon,ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.

10. “Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!Dw i'n llawer uwch na'r cenhedloedd;dw i'n llawer uwch na'r ddaear gyfan.”

11. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni!Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni! Saib