1. Gwrando, o fugail Israelsy'n arwain Joseff fel praidd.Ti sydd wedi dy orseddu uwch ben y ceriwbiaid,disgleiria
2. o flaen Effraim, Benjamin, a Manasse!Dangos dy nerth i ni, a tyrd i'n hachub!
3. Adfer ni, O Dduw!Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni!
4. O ARGLWYDD Dduw holl-bwerus,am faint mwy rwyt ti'n mynd i fod yn ddiggyda gweddïau dy bobl?
5. Ti wedi eu bwydo nhw â dagrau,a gwneud iddyn nhw yfed dagrau wrth y gasgen.
6. Ti wedi troi ein cymdogion yn ein herbyn;mae'n gelynion yn gwneud sbort ar ein pennau.
7. O Dduw holl-bwerus, adfer ni!Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni!
8. Cymeraist winwydden o'r Aifft,a gyrru cenhedloedd i ffwrdd er mwyn ei thrawsblannu hi.
9. Cliriaist le iddi,er mwyn iddi fwrw gwreiddiaua llenwi'r tir.
10. Roedd ei chysgod dros y mynyddoedd,a'i changhennau fel rhai coed cedrwydd.
11. Roedd ei changhennau'n cyrraedd at y môr,a'i brigau at afon Ewffrates.
12. Pam wnest ti fwrw'r wal o'i chwmpas i lawr,fel bod pwy bynnag sy'n pasio heibio yn pigo ei ffrwyth?
13. Mae'r baedd gwyllt wedi tyrchu o dani,a'r pryfed yn bwyta ei dail.
14. O Dduw holl-bwerus, tro yn ôl aton ni!Edrych i lawr o'r nefoeddac archwilia gyflwr dy winwydden!
15. Ti dy hun wnaeth ei phlannu,a gwneud iddi dyfu.
16. Ond bellach mae hi wedi ei llosgi a'i thorri i lawr!Mae wedi ei difetha gan dy gerydd di.
17. Nertha'r dyn rwyt wedi ei ddewis;yr un dynol rwyt wedi ei wneud yn gryf.
18. Wnawn ni ddim troi cefn arnat ti.Adfywia ni, a byddwn ni'n galw ar dy enw.