Salm 23 beibl.net 2015 (BNET)

Y bugail sy'n gofalu am ei bobl

Salm Dafydd.

1. Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i;mae gen i bopeth dw i angen.

2. Mae'n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd;ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel.

3. Mae'n rhoi bywyd newydd i mi,ac yn dangos i mi'r ffordd iawn i fynd.Ydy, mae e'n enwog am ei ofal.

4. Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd,fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi.Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.

5. Rwyt ti'n paratoi gwledd i miac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio.Rwyt ti'n tywallt olew ar fy mhen.Mae gen i fwy na digon!

6. Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlongyda mi weddill fy mywyd.A byddaf yn byw eto yn nhŷ'r ARGLWYDDam byth.