Salm 26 beibl.net 2015 (BNET)

Gweddi person gonest

Salm Dafydd.

1. Achub fy ngham, O ARGLWYDD,dw i wedi bod yn onest.Dw i wedi dy drystio di ARGLWYDDbob amser.

2. Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf!Treiddia i'm meddwl a'm cydwybod.

3. Dw i'n gwybod mor ffyddlon wyt ti –a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen.

4. Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy'n twyllo,nac yn cymysgu gyda rhai sy'n anonest.

5. Dw i'n casáu cwmni dynion drwg,ac yn gwrthod cyngor pobl felly.

6. Dw i'n golchi fy nwylo'n lân,ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD.

7. Dw i eisiau diolch i ti,a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti.

8. O ARGLWYDD, dw i'n caru'r deml lle rwyt ti'n byw;y fan lle mae dy ysblander i'w weld.

9. Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid,na'm lladd gyda'r bobl dreisgar

10. sydd bob amser yn cynllwyn rhyw ddrwg,neu'n barod i gynnig breib.

11. Dw i wedi bod yn onest.Gollwng fi'n rhydd! Bydd yn garedig ata i!

12. Dw i'n gwybod fy mod i'n saff.Bydda i'n addoli'r ARGLWYDD eto gyda'i bobl.