1. O Dduw, pam wyt ti'n ddig gyda ni drwy'r amser?Pam mae dy ffroenau'n mygu yn erbyn defaid dy borfa?
2. Cofia'r criw o bobl gymeraist ti i ti dy hun mor bell yn ôl;y bobl ollyngaist yn rhydd i fod yn llwyth sbesial i ti!Dyma Fynydd Seion ble rwyt ti'n byw!
3. Brysia! Edrych ar yr adfeilion diddiwedd yma,a'r holl niwed mae'r gelyn wedi ei wneud i dy deml!
4. Mae'r gelyn wedi rhuo wrth ddathlu eu concwest yn dy gysegr;a gosod eu harwyddion a'u symbolau eu hunain yno.
5. Roedden nhw fel dynion yn chwifio bwyeillwrth glirio drysni a choed;
6. yn dryllio'r holl waith cerfio cywraingyda bwyeill a morthwylion.
7. Yna rhoi dy gysegr ar dân;a dinistrio'n llwyr y deml lle roeddet ti'n aros.
8. “Gadewch i ni ddinistrio'r cwbl!” medden nhw.A dyma nhw'n llosgi pob cysegr i Dduw yn y tir.
9. Does dim arwydd o obaith i'w weld!Does dim proffwyd ar ôl;neb sy'n gwybod am faint mae hyn yn mynd i bara.
10. O Dduw, am faint mwy mae'r gelyn yn mynd i wawdio?Ydy e'n mynd i gael sarhau dy enw di am byth?
11. Pam wyt ti ddim yn gwneud rhywbeth?Pam wyt ti'n dal yn ôl? Plîs gwna rywbeth!
12. O Dduw, ti ydy fy Mrenin i o'r dechrau!Ti ydy'r Duw sy'n gweithredu ac yn achub ar y ddaear!
13. Ti, yn dy nerth, wnaeth hollti'r môr.Ti ddrylliodd bennau y ddraig yn y dŵr.
14. Ti sathrodd bennau Lefiathan,a'i adael yn fwyd i greaduriaid yr anialwch.
15. Ti agorodd y ffynhonnau a'r nentydd,a sychu llif yr afonydd.
16. Ti sy'n rheoli'r dydd a'r nos;ti osododd y lleuad a'r haul yn eu lle.
17. Ti roddodd dymhorau i'r ddaear;haf a gaeaf – ti drefnodd y cwbl!
18. Cofia fel mae'r gelyn wedi dy wawdio di, ARGLWYDD;fel mae pobl ffôl wedi dy sarhau di.
19. Paid rhoi dy golomen i'r bwystfil!Paid anghofio dy bobl druan yn llwyr.
20. Cofia'r ymrwymiad wnest ti!Mae lleoedd tywyll sy'n guddfan i greulondeb ym mhobman.
21. Paid gadael i'r bobl sy'n dioddef droi'n ôl yn siomedig.Gad i'r tlawd a'r anghenus foli dy enw.
22. Cod, O Dduw, a dadlau dy achos!Cofia fod ffyliaid yn dy wawdio drwy'r adeg.
23. Paid diystyru twrw'r gelynion,a bloeddio diddiwedd y rhai sy'n dy wrthwynebu di.