Salm 126 beibl.net 2015 (BNET)

Gweddi am help Duw

Cân yr orymdaith.

1. Ar ôl i'r ARGLWYDD roi llwyddiant i Seion eto,roedden ni fel rhai yn breuddwydio –

2. roedden ni'n chwerthin yn uchel,ac yn canu'n llon.Roedd pobl y cenhedloedd yn dweud:“Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr iddyn nhw!”

3. Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni.Dŷn ni mor hapus!

4. O ARGLWYDD, wnei di roi llwyddiant i ni eto,fel pan mae ffrydiau dŵr yn llifo yn anialwch y Negef?

5. Bydd y rhai sy'n wylo wrth hauyn canu'n llawen wrth fedi'r cynhaeaf.

6. Mae'r un sy'n cario ei sach o hadauyn crïo wrth fynd i hau.Ond bydd yr un sy'n cario'r ysgubauyn dod adre dan ganu'n llon!