Salm 27 beibl.net 2015 (BNET)

Gweddi o ymroddiad i Dduw

Salm Dafydd.

1. Mae'r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i;does gen i ofn neb.Mae'r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i,does neb yn fy nychryn.

2. Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna ii'm llarpio fel ysglyfaeth –nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu),ie, nhw wnaeth faglu a syrthio.

3. Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i,fyddai gen i ddim ofn.Petai rhyfel ar fin torri allan,byddwn i'n gwbl hyderus.

4. Gofynnais i'r ARGLWYDD am un peth –dyma beth dw i wir eisiau:Dw i eisiau aros yn nhŷ'r ARGLWYDDam weddill fy mywyd;i ryfeddu ar haelioni'r ARGLWYDD,a myfyrio yn ei deml.

5. Bydd e'n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl;bydda i'n saff yn ei babell;Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel,allan o gyrraedd y gelyn.

6. Bydda i'n ennill y frwydryn erbyn y gelynion sydd o'm cwmpas.Bydda i'n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi'n llawen.Bydda i'n canu a chyfansoddi cerddoriaeth i foli'r ARGLWYDD.

7. O ARGLWYDD, gwranda arna i'n galw arnat ti.Bydd yn garedig ata i! Ateb fi!

8. Dw i'n gwybod dy fod ti'n dweud, “Ceisiwch fi!”Felly ARGLWYDD, dw i'n dy geisio di!

9. Paid troi cefn arna i! Paid gwthio fi i ffwrdd.Ti sy'n gallu fy helpu i!Paid gwrthod fi! Paid â'm gadael i.O Dduw, ti ydy'r un sy'n fy achub i!

10. Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i,byddai'r ARGLWYDD yn gofalu amdana i.

11. Dangos i mi sut rwyt ti eisiau i mi fyw, O ARGLWYDD.Arwain fi ar hyd y llwybr iawn,achos mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn fy ngwylio i.

12. Paid gadael i'm gelynion i gael eu ffordd.Mae tystion celwyddog yn codiac yn tystio yn fy erbyn i.

13. Ond dw i'n gwybod yn iawny bydda i'n profi daioni'r ARGLWYDDar dir y byw!

14. Gobeithia yn yr ARGLWYDD!Bydd yn ddewr ac yn hyderus!Ie, gobeithia yn yr ARGLWYDD!