Salm 100 beibl.net 2015 (BNET)

Emyn o fawl

Salm o ddiolch.

1. Gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDDholl bobl y byd!

2. Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen;a dod o'i flaen gan ddathlu!

3. Cyffeswch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw;Fe ydy'r un a'n gwnaeth ni,a ni ydy ei bobl e –y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.

4. Ewch drwy'r giatiau gan ddiolch iddo,ac i mewn i'w deml yn ei foli!Rhowch ddiolch iddo!A bendithio ei enw!

5. Achos mae'r ARGLWYDD mor dda!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd;ac mae'n aros yn ffyddlon o un genhedlaeth i'r llall.