Salm 61 beibl.net 2015 (BNET)

Gweddi am amddiffyn

I'r arweinydd cerdd: I gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.

1. Gwranda arna i'n galw, O Dduw.Gwranda ar fy ngweddi.

2. Dw i'n galw arnat ti o ben draw'r byd.Pan dw i'n anobeithio,arwain fi at graig uchel ddiogel.

3. Achos rwyt ti'n le saff i mi fynd;yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod.

4. Gad i mi aros yn dy babell am byth,yn saff dan gysgod dy adenydd. Saib

5. O Dduw, clywaist yr addewidion wnes i;ti wedi rhoi etifeddiaeth i mi gyda'r rhai sy'n dy addoli.

6. Gad i'r brenin fyw am flynyddoedd eto!Gad iddo fyw am genedlaethau lawer,

7. ac eistedd ar yr orsedd o flaen Duw am byth!Gwylia drosto gyda dy gariad a dy ofal ffyddlon.

8. Yna byddaf yn canu mawl i dy enw am byth,wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd.