Salm 75 beibl.net 2015 (BNET)

Y Duw sy'n barnu'n deg

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Paid dinistrio". Salm gan Asaff; Cân.

1. Dŷn ni'n diolch i ti, O Dduw;ie, diolch i ti!Rwyt ti wrth law bob amser,ac mae pobl yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.

2. Meddai Duw, “Mae amser wedi ei drefnupan fydda i'n barnu'n deg.

3. Pan mae'r ddaear a phawb sy'n byw arni yn crynu,fi sy'n cadw ei cholofnau'n gadarn. Saib

4. Dw i'n dweud wrth y balch, ‘Peidiwch brolio!’ac wrth y rhai drwg, ‘Peidiwch bod yn rhy siŵr ohonoch eich hunain!

5. Peidiwch codi eich cyrn yn uchela bod mor heriol wrth siarad.’”

6. Nid o'r gorllewin na'r dwyrain,nac o'r anialwch y daw buddugoliaeth –

7. Duw ydy'r un sy'n barnu;fe sy'n tynnu un i lawr ac yn codi un arall.

8. Oes, mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDDac mae'r gwin ynddi yn ewynnu ac wedi ei gymysgu.Bydd yn ei dywallt allan,a bydd y rhai drwg ar y ddaear yn ei yfed –yn yfed pob diferyn!

9. Ond bydda i'n ei glodfori am byth,ac yn canu mawl i Dduw Jacob, sy'n dweud,

10. “Bydda i'n torri cyrn y rhai drwg,ac yn rhoi'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.”