1. Dw i'n diolch i ti o waelod calon,ac yn canu mawl i ti o flaen y duwiau!
2. Dw i'n ymgrymu i gyfeiriad dy deml sanctaiddac yn moli dy enw am dy gariad a dy ffyddlondeb.Mae dy enw a dy addewid di yn well na phopeth sy'n bod.
3. Dyma fi'n galw, a dyma ti'n ateb,fy ysbrydoli, a rhoi hyder i mi.
4. Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn diolch i ti, O ARGLWYDD,pan fyddan nhw'n clywed y cwbl rwyt ti'n ei addo.
5. Byddan nhw'n canu am weithredoedd yr ARGLWYDD:“Mae dy ysblander di, ARGLWYDD, mor fawr!”
6. Er bod yr ARGLWYDD mor fawr,mae'n gofalu am y gwylaidd;ac mae'n gwybod o bell am y balch.
7. Pan dw i mewn trafferthion,rwyt yn fy achub o afael y gelyn gwyllt;ti'n estyn dy law gref i'm helpu.
8. Bydd yr ARGLWYDD yn talu'n ôl ar fy rhan i!O ARGLWYDD, mae dy haelioni yn ddiddiwedd!Paid troi cefn ar dy bobl, gwaith dy ddwylo!