Salm 31 beibl.net 2015 (BNET)

Trystio Duw

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1. Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD;paid gadael i mi gael fy siomi.Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi.

2. Gwranda arna i!Achub fi'n fuan!Bydd yn graig ddiogel i mi,yn gaer lle bydda i'n hollol saff.

3. Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer.Cadw dy enw da,dangos y ffordd i mi ac arwain fi.

4. Rhyddha fi o'r rhwyd sydd wedi ei gosod i'm dal i,Ie, ti ydy fy lle diogel i.

5. Dw i'n rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di.Dw i'n gwybod y gwnei di fy rhyddhau iachos ti, o ARGLWYDD, ydy'r Duw ffyddlon.

6. Dw i'n casáu'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth;ond dw i'n dy drystio di, ARGLWYDD.

7. Bydda i'n dathlu'n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon.Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna iac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo,

8. Paid gadael i'r gelyn fy nal i;gad i mi ddianc i le agored.

9. Helpa fi, O ARGLWYDD,mae hi'n argyfwng arna i.Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder –fy nghorff i gyd i ddweud y gwir.

10. Dw i'n cael fy llethu gan boen;mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan.Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan,ac mae fy esgyrn yn frau.

11. Mae'r holl elynion sydd gen iyn gwneud hwyl ar fy mhen.Mae fy ffrindiau yn arswydo;mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd.

12. Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw!Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri.

13. Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd,a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad.Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i;maen nhw eisiau fy lladd i.

14. Ond dw i'n dy drystio di, O ARGLWYDD.Dw i'n datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!”

15. Dw i yn dy ddwylo diachub fi o afael y gelynion sydd ar fy ôl i.

16. Bydd yn garedig at dy was.Dangos mor ffyddlon wyt ti! Achub fi!

17. O ARGLWYDD, paid â'm siomi pan dw i'n galw arnat.Gwna i'r rhai drwg gael eu siomi!Cau eu cegau nhw unwaith ac am byth!

18. Rho daw ar y rhai sy'n dweud celwydd;y bobl hynny sy'n herio'r rhai sy'n byw'n iawnac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw.

19. Ond mae gen ti gymaint o bethau dai'w rhoi i'r rhai sy'n dy addoli di.O flaen pawb, byddi'n rhoi'r cwbl iddyn nhw,sef y rhai sy'n troi atat ti am loches.

20. Rwyt ti gyda nhw, ac yn ei cuddiorhag y dynion sy'n cynllwynio yn eu herbyn.Ti'n cysgodi drostyn nhwac maen nhw'n saffrhag y tafodau miniog sy'n ymosod.

21. Bendith ar yr ARGLWYDD!Mae wedi bod yn anhygoel o ffyddlonpan oedd y gelynion yn ymosod.

22. Ro'n i mewn panig, ac yn meddwl,“Dwyt ti ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi!”Ond na, pan oeddwn i'n crefu am helproeddet ti wedi clywed.

23. Felly carwch yr ARGLWYDD,chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon!Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,ond mae'n talu'n ôl yn llawn i'r rhai sy'n haerllug.

24. Byddwch yn ddewr a hyderus,chi sy'n credu y bydd yr ARGLWYDD yn eich ateb chi.