1. Haleliwia!Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd!Molwch e o'r uchder!
2. Molwch e, ei holl angylion!Molwch e, ei holl fyddinoedd!
3. Molwch e, haul a lleuad!Molwch e, yr holl sêr!
4. Molwch e, y nefoedd uchod,a'r dŵr sydd uwchben y nefoedd!
5. Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD,am mai fe orchymynodd iddyn nhw gael eu creu.
6. Fe roddodd nhw yn eu lle am byth bythoedd,a gosod trefn fydd byth yn newid.
7. Molwch yr ARGLWYDD, chi sydd ar y ddaear,a'r holl forfilod mawr yn y môr dwfn.
8. Y mellt a'r cenllysg, yr eira a'r niwl,a'r gwynt stormus sy'n ufudd iddo.
9. Y mynyddoedd a'r bryniau i gyd,y coed ffrwythau a'r coed cedrwydd;
10. pob anifail gwyllt a dof,ymlusgiaid ac adar.
11. Yr holl frenhinoedd a'r gwahanol bobloedd,yr arweinwyr a'r barnwyr i gyd;
12. bechgyn a merchedhen ac ifanc gyda'i gilydd
13. Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD!Mae ei enw e yn uwch na'r cwbl;Mae ei ysblander yn gorchuddio'r nefoedd a'r ddaear!
14. Mae wedi rhoi buddugoliaeth i'w bobl,ac enw da i bawb sydd wedi profi ei gariad ffyddlon,sef Israel, y bobl sy'n agos ato.Haleliwia!