Salm 113 beibl.net 2015 (BNET)

Moli daioni'r ARGLWYDD

1. Haleliwia!Molwch e, weision yr ARGLWYDD!Molwch enw'r ARGLWYDD!

2. Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei fendithio,nawr ac am byth.

3. Boed i enw'r ARGLWYDD gael ei folidrwy'r byd i gyd!

4. Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu dros yr holl genhedloedd!Mae ei ysblander yn uwch na'r nefoedd.

5. Does neb tebyg i'r ARGLWYDD ein Duw,sy'n eistedd ar ei orsedd uchel!

6. Mae'n plygu i lawr i edrychar y nefoedd a'r ddaear oddi tano.

7. Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw,a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwriel.

8. Mae'n eu gosod i eistedd gyda'r bobl fawr,ie, gydag arweinwyr ei bobl.

9. Mae'n rhoi cartref i'r wraig ddi-blant,ac yn ei gwneud hi'n fam hapus.Haleliwia!