1. Ro'n i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i,“Gadewch i ni fynd i deml yr ARGLWYDD.”
2. Dyma ni yn sefyll y tu mewn i dy giatiau,O Jerwsalem!
3. Mae Jerwsalem yn ddinas wedi ei hadeiladu,i bobl ddod at ei gilydd ynddi.
4. Mae'r llwythau yn mynd ar bererindod iddi,ie, llwythau'r ARGLWYDD.Mae'n ddyletswydd ar bobl Israeli roi diolch i'r ARGLWYDD.
5. Dyma ble mae'r llysoedd barn yn eistedd,llysoedd barn llywodraeth Dafydd.
6. Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem:“Boed i'r rhai sy'n dy garu di lwyddo.
7. Boed heddwch y tu mewn i dy waliau,a diogelwch o fewn dy gaerau.”
8. Er mwyn fy mhobl a'm ffrindiaudw i'n gweddïo am heddwch i ti.
9. Er mwyn teml yr ARGLWYDD ein Duw,dw i'n gofyn am lwyddiant i ti.