Salm 29 beibl.net 2015 (BNET)

Llais yr ARGLWYDD yn y storm

Salm Dafydd.

1. Dewch angylion! Cyhoeddwch!Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!

2. Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!Plygwch i addoli'r ARGLWYDDsydd mor hardd yn ei gysegr.

3. Mae llais yr ARGLWYDD i'w glywed uwchben y dŵr –sŵn y Duw gwych yn taranu.Mae'r ARGLWYDD yn taranu uwchben y dyfroedd mawr.

4. Mae llais yr ARGLWYDD yn rymus.Mae llais yr ARGLWYDD yn urddasol.

5. Mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio'r cedrwydd;mae e'n dryllio coed cedrwydd Libanus.

6. Mae'n gwneud i Libanus brancio fel llo;a Sirion fel ych gwyllt ifanc.

7. Mae llais yr ARGLWYDD fel mellt yn fflachio.

8. Mae llais yr ARGLWYDD yn ysgwyd yr anialwch;mae'r ARGLWYDD yn ysgwyd anialwch Cadesh.

9. Mae llais yr ARGLWYDD yn plygu'r coed mawrion,ac yn tynnu'r dail oddi ar y fforestydd.Ac yn ei deml mae pawb yn gweiddi “Rwyt ti'n wych!”

10. Mae'r ARGLWYDD ar ei orsedd uwchben y llifogydd.Mae'r ARGLWYDD yn Frenin ar ei orsedd am byth.

11. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.Mae'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i'w bobl.