Salm 85 beibl.net 2015 (BNET)

Gweddi am les y genedl

I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.

1. O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir,ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.

2. Ti wedi symud euogrwydd dy bobl,a maddau eu pechodau i gyd. Saib

3. Ti wedi tynnu dy lid yn ôl,a throi cefn ar dy wylltineb.

4. Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr!Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.

5. Wyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth?Wyt ti'n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau?

6. Plîs, wnei di'n hadfywio ni unwaith eto,i dy bobl gael dathlu beth wnest ti!

7. O ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni.Plîs achub ni!

8. Dw i'n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i'w ddweud:Ydy wir! Mae'r ARGLWYDD yn addo heddwchi'r rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon –ond rhaid iddyn nhw beidio troi'n ôl at eu ffolineb!

9. Mae e'n barod iawn i achub y rhai sy'n ei ddilyn e;wedyn bydd ei ysblander i'w weld yn ein tir eto.

10. Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd;bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.

11. Bydd gwirionedd yn tarddu o'r tir,a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.

12. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni;a bydd y tir yn rhoi ei gnydau.

13. Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaenac yn paratoi'r ffordd iddo.