Y Salmau 96 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,canwch i'r ARGLWYDD yr holl ddaear.

2. Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw,cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.

3. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.

4. Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.

5. Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

6. Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,nerth a gogoniant yn ei gysegr.

7. Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;

8. rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,dygwch offrwm a dewch i'w gynteddoedd.

9. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd;crynwch o'i flaen, yr holl ddaear.

10. Dywedwch ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin”;yn wir, y mae'r byd yn sicr ac nis symudir;bydd ef yn barnu'r bobloedd yn uniawn.

11. Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear;rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,

12. llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.Yna bydd holl brennau'r goedwig yn canu'n llawen