Y Salmau 70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, er coffadwriaeth.

1. Bydd fodlon i'm gwaredu, O Dduw;O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.

2. Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imigael eu troi yn eu holau mewn dryswch.

3. Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnafdroi yn eu holau o achos eu gwaradwydd.

4. Ond bydded i bawb sy'n dy geisio dilawenhau a gorfoleddu ynot;bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaethddweud yn wastad, “Mawr yw Duw.”