Y Salmau 128 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cân Esgyniad.

1. Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDDac yn rhodio yn ei ffyrdd.

2. Cei fwyta o ffrwyth dy lafur;byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.

3. Bydd dy wraig yng nghanol dy dŷfel gwinwydden ffrwythlon,a'th blant o amgylch dy fwrddfel blagur olewydd.

4. Wele, fel hyn y bendithir y sawlsy'n ofni'r ARGLWYDD.

5. Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion,iti gael gweld llwyddiant Jerwsalemholl ddyddiau dy fywyd,

6. ac iti gael gweld plant dy blant.Bydded heddwch ar Israel!