Y Salmau 54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Mascîl. I Ddafydd, pan ddaeth y Siffiaid at Saul a dweud, “Y mae Dafydd yn cuddio yn ein mysg.”

1. O Dduw, gwareda fi trwy dy enw,a thrwy dy nerth cyfiawnha fi.

2. O Dduw, gwrando fy ngweddi,rho glust i eiriau fy ngenau.

3. Oherwydd cododd gwŷr trahaus yn fy erbyn,ac y mae gwŷr didostur yn ceisio fy mywyd;nid ydynt yn meddwl am Dduw.Sela

4. Wele, Duw yw fy nghynorthwywr,fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd.

5. Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion!Trwy dy wirionedd diddyma hwy.

6. Aberthaf yn ewyllysgar i ti;clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw;

7. oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder,a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion.