Y Salmau 142 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Mascîl. I Ddafydd, pan oedd yn yr ogof. Gweddi.

1. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,ymbiliaf yn uchel ar yr ARGLWYDD.

2. Arllwysaf fy nghwyn o'i flaen,a mynegaf fy nghyfyngder yn ei bresenoldeb.

3. Pan yw fy ysbryd yn pallu,yr wyt ti'n gwybod fy llwybr.Ar y llwybr a gerddafy maent wedi cuddio magl.

4. Edrychaf i'r dde, a gweldnad oes neb yn gyfaill imi;nid oes dihangfa imi,na neb yn malio amdanaf.

5. Gwaeddais arnat ti, O ARGLWYDD;dywedais, “Ti yw fy noddfa,a'm rhan yn nhir y rhai byw.”

6. Gwrando ar fy nghri,oherwydd fe'm darostyngwyd yn isel;gwared fi oddi wrth fy erlidwyr,oherwydd y maent yn gryfach na mi.

7. Dwg fi allan o'm caethiwed,er mwyn imi glodfori dy enw.Bydd y rhai cyfiawn yn tyrru atafpan fyddi di yn dda wrthyf.