Y Salmau 131 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cân Esgyniad. I Ddafydd.

1. O ARGLWYDD, nid yw fy nghalon yn drahaus,na'm llygaid yn falch;nid wyf yn ymboeni am bethau rhy fawr,nac am bethau rhy ryfeddol i mi.

2. Ond yr wyf wedi tawelu a distewi fy enaid,fel plentyn ar fron ei fam;fel plentyn y mae fy enaid.

3. O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDDyn awr a hyd byth.