Y Salmau 52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

I'r Cyfarwyddwr: Mascîl. I Ddafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a dweud wrth Saul fod Dafydd wedi dod i dŷ Ahimelech.

1. O ŵr grymus, pam yr ymffrosti yn dy ddrygioniyn erbyn y duwiol yr holl amser?

2. Yr wyt yn cynllwyn distryw;y mae dy dafod fel ellyn miniog,ti dwyllwr.

3. Yr wyt yn caru drygioni'n fwy na daioni,a chelwydd yn fwy na dweud y gwir.Sela

4. Yr wyt yn caru pob gair difaolac iaith dwyllodrus.

5. Bydd Duw'n dy dynnu i lawr am byth,bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o'th babell,ac yn dy ddadwreiddio o dir y byw.Sela

6. Bydd y cyfiawn yn gweld ac yn ofni,yn chwerthin am ei ben ac yn dweud,

7. “Dyma'r un na wnaeth Dduw yn noddfa,ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau,a cheisio noddfa yn ei gyfoeth ei hun.”

8. Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd yn nhŷ Dduw;ymddiriedaf yn ffyddlondeb Duw byth bythoedd.

9. Diolchaf iti hyd byth am yr hyn a wnaethost;cyhoeddaf dy enw—oherwydd da yw—ymysg dy ffyddloniaid.