Y Salmau 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Salm. I Ddafydd, pan ffodd rhag ei fab Absalom.

1. ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!Y mae llawer yn codi yn f'erbyn,

2. a llawer yn dweud amdanaf,“Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.”Sela

3. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi,yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.

4. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd.Sela

5. Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu,ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.

6. Nid ofnwn pe bai myrddiwn o boblyn ymosod arnaf o bob tu.

7. Cyfod, ARGLWYDD; gwareda fi, O fy Nuw.Byddi'n taro fy holl elynion yn eu hwyneb,ac yn torri dannedd y drygionus.

8. I'r ARGLWYDD y perthyn gwaredigaeth;bydded dy fendith ar dy bobl.Sela