Y Salmau 133 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cân Esgyniad. I Ddafydd.

1. Mor dda ac mor ddymunol ywi bobl fyw'n gytûn.

2. Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen,yn llifo i lawr dros y farf,dros farf Aaron,yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd.

3. Y mae fel gwlith Hermonyn disgyn i lawr ar fryniau Seion.Oherwydd yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ei fendith,bywyd hyd byth.