Y Salmau 126 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cân Esgyniad.

1. Pan adferodd yr ARGLWYDD lwyddiant Seion,yr oeddem fel rhai wedi cael iachâd;

2. yr oedd ein genau yn llawn chwerthina'n tafodau yn bloeddio canu.Yna fe ddywedid ymysg y cenhedloedd,“Gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr iddynt hwy.”

3. Yn wir, gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr i ni,a bu i ninnau lawenhau.

4. O ARGLWYDD, adfer ein llwyddiantfel ffrydiau yn y Negef;

5. bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagraufedi mewn gorfoledd.

6. Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo,ac yn cario ei sach o hadyd,yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd,ac yn cario ei ysgubau.