Y Salmau 73 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

LLYFR 3

Salm. I Asaff.

1. Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn,a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon.

2. Yr oedd fy nhraed bron â baglu,a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,

3. am fy mod yn cenfigennu wrth y trahausac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.

4. Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;y mae eu cyrff yn iach a graenus.

5. Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill,ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.

6. Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau,a thrais yn wisg amdanynt.

7. Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.

8. Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar,yn sôn yn ffroenuchel am ormes.

9. Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd,ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear.

10. Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt,ac ni chânt unrhyw fai ynddynt.

11. Dywedant, “Sut y mae Duw'n gwybod?A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?”

12. Edrych, dyma hwy y rhai drygionus—bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth.

13. Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn lân,a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog;

14. ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio,ac fe'm cosbir bob bore.

15. Pe buaswn wedi dweud, “Fel hyn y siaradaf”,buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant.

16. Ond pan geisiais ddeall hyn,yr oedd yn rhy anodd i mi,

17. nes imi fynd i gysegr Duw;yno y gwelais eu diwedd.

18. Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig,ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw.

19. Fe ânt i ddinistr ar amrantiad,fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd.

20. Fel breuddwyd ar ôl ymysgwyd, y maent wedi mynd;wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef.

21. Pan oedd fy nghalon yn chwerwa'm coluddion wedi eu trywanu,

22. yr oeddwn yn ddwl a diddeall,ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat.

23. Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser;yr wyt yn cydio yn fy neheulaw.

24. Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor,ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.

25. Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti?Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.

26. Er i'm calon a'm cnawd ballu,eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.

27. Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt,a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti.

28. Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw;yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi,er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.