Y Salmau 137 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylowrth inni gofio am Seion.

2. Ar yr helyg ynobu inni grogi ein telynau,

3. oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am gân,a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch.“Canwch inni,” meddent, “rai o ganeuon Seion.”

4. Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDDmewn tir estron?

5. Os anghofiaf di, Jerwsalem,bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;

6. bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenauos na chofiaf di,os na osodaf Jerwsalemyn uwch na'm llawenydd pennaf.

7. O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edomddydd gofid Jerwsalem,am iddynt ddweud, “I lawr â hi, i lawr â hihyd at ei sylfeini.”

8. O ferch Babilon, a ddistrywir,gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n ôl i tiam y cyfan a wnaethost i ni.

9. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blantac yn eu dryllio yn erbyn y graig.