Y Salmau 67 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. Cân.

1. Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio,bydded llewyrch ei wyneb arnom,Sela

2. er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear,a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.

3. Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,bydded i'r holl bobloedd dy foli di.

4. Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu,oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir,ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear.Sela

5. Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,bydded i'r holl bobloedd dy foli di.

6. Rhoes y ddaear ei chnwd;Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.

7. Bendithiodd Duw ni;bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.