Y Salmau 13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.

1. Am ba hyd, ARGLWYDD, yr anghofi fi'n llwyr?Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?

2. Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid,a gofid yn fy nghalon ddydd ar ôl dydd?Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?

3. Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw;goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth,

4. rhag i'm gelyn ddweud, “Gorchfygais ef”,ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf.

5. Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb,a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth;canaf i'r ARGLWYDD,am iddo fod mor hael wrthyf.