Y Salmau 120 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cân Esgyniad.

1. Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac atebodd fi.

2. “O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus,a rhag tafod enllibus.”

3. Beth a roddir i ti,a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus?

4. Saethau llymion rhyfelwr,a marwor eirias!

5. Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech,ac yn byw ymysg pebyll Cedar.

6. Yn rhy hir y bûm yn bywgyda'r rhai sy'n casáu heddwch.

7. Yr wyf fi am heddwch,ond pan soniaf am hynny,y maent hwy am ryfel.