Y Salmau 150 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Molwch Dduw yn ei gysegr,molwch ef yn ei ffurfafen gadarn.

2. Molwch ef am ei weithredoedd nerthol,molwch ef am ei holl fawredd.

3. Molwch ef â sain utgorn,molwch ef â nabl a thelyn.

4. Molwch ef â thympan a dawns,molwch ef â llinynnau a phibau.

5. Molwch ef â sŵn symbalau,molwch ef â symbalau uchel.

6. Bydded i bopeth byw foliannu'r ARGLWYDD.Molwch yr ARGLWYDD.