Y Salmau 127 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cân Esgyniad. I Solomon.

1. Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ,y mae ei adeiladwyr yn gweithio'n ofer.Os nad yw'r ARGLWYDD yn gwylio'r ddinas,y mae'r gwylwyr yn effro'n ofer.

2. Yn ofer y codwch yn fore,a mynd yn hwyr i orffwyso,a llafurio am y bwyd a fwytewch;oherwydd mae ef yn rhoi i'w anwylyd pan yw'n cysgu.

3. Wele, etifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD yw meibion,a gwobr yw ffrwyth y groth.

4. Fel saethau yn llaw rhyfelwryw meibion ieuenctid dyn.

5. Gwyn ei fyd y sawlsydd â chawell llawn ohonynt;ni chywilyddir efpan ddadleua â'i elynion yn y porth.