Y Salmau 28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

I Ddafydd.

1. Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf;fy nghraig, paid â thewi tuag ataf—rhag, os byddi'n ddistaw,imi fod fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

2. Gwrando ar lef fy ngweddipan waeddaf arnat am gymorth,pan godaf fy nwylotua'th gysegr sanctaidd.

3. Paid â'm cipio ymaith gyda'r drygionusa chyda gwneuthurwyr drygioni,rhai sy'n siarad yn deg â'u cymdogionond sydd â chynnen yn eu calon.

4. Tâl iddynt am eu gweithredoeddac am ddrygioni eu gwaith;tâl iddynt am yr hyn a wnaeth eu dwylo,rho eu haeddiant iddynt.

5. Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr ARGLWYDDna gwaith ei ddwylo ef,bydded iddo'u dinistrio a pheidio â'u hailadeiladu.

6. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDDam iddo wrando ar lef fy ngweddi.

7. Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian;ynddo yr ymddiried fy nghalon;yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon,a rhof foliant iddo ar gân.

8. Y mae'r ARGLWYDD yn nerth i'w boblac yn gaer gwaredigaeth i'w eneiniog.

9. Gwareda dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth;bugeilia hwy a'u cario am byth.