Y Salmau 143 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Salm. I Ddafydd.

1. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,gwrando ar fy neisyfiad.Ateb fi yn dy ffyddlondeb—yn dy gyfiawnder.

2. Paid â mynd i farn â'th was,oherwydd nid oes neb byw yn gyfiawn o'th flaen di.

3. Y mae'r gelyn wedi fy ymlid,ac wedi sathru fy mywyd i'r llawr;gwnaeth imi eistedd mewn tywyllwch,fel rhai wedi hen farw.

4. Y mae fy ysbryd yn pallu ynof,a'm calon wedi ei dal gan arswyd.

5. Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt,yn myfyrio ar y cyfan a wnaethost,ac yn meddwl am waith dy ddwylo.

6. Yr wyf yn estyn fy nwylo atat ti,ac yn sychedu amdanat fel tir sych.Sela

7. Brysia i'm hateb, O ARGLWYDD,y mae fy ysbryd yn pallu;paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,neu byddaf fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

8. Pâr imi glywed yn y bore am dy gariad,oherwydd yr wyf wedi ymddiried ynot ti;gwna imi wybod pa ffordd i'w cherdded,oherwydd yr wyf wedi dyrchafu fy enaid atat ti.

9. O ARGLWYDD, gwareda fi oddi wrth fy ngelynion,oherwydd atat ti yr wyf wedi ffoi am gysgod.

10. Dysg imi wneud dy ewyllys,oherwydd ti yw fy Nuw;bydded i'th ysbryd daionus fy arwainar hyd tir gwastad.

11. Er mwyn dy enw, O ARGLWYDD, cadw fy einioes;yn dy gyfiawnder dwg fi o'm cyfyngder,

12. ac yn dy gariad difetha fy ngelynion;dinistria'r holl rai sydd yn fy ngorthrymu,oherwydd dy was wyf fi.