Y Salmau 110 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

I Ddafydd. Salm.

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd:“Eistedd ar fy neheulaw,nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti.”

2. Y mae'r ARGLWYDD yn estyn i ti o Seion deyrnwialen awdurdod;llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion.

3. Y mae dy bobl yn deyrngar iti ar ddydd dy enimewn gogoniant sanctaidd o groth y wawr;fel gwlith y'th genhedlais di.

4. Tyngodd yr ARGLWYDD, ac ni newidia,“Yr wyt yn offeiriad am bythyn ôl urdd Melchisedec.”

5. Y mae'r Arglwydd ar dy ddeheulawyn dinistrio brenhinoedd yn nydd ei ddicter.

6. Fe weinydda farn ymysg y cenhedloedd,a'u llenwi â chelanedd;dinistria benaethiaiddros ddaear lydan.