1. Symbylwyd fy nghalon gan neges dda;adroddaf fy nghân am y brenin;y mae fy nhafod fel pin ysgrifennydd buan.
2. Yr wyt yn decach na phawb;tywalltwyd gras ar dy wefusauam i Dduw dy fendithio am byth.
3. Gwisg dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr;â mawredd a gogoniant addurna dy forddwyd.
4. Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder,a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.
5. Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin;syrth pobloedd odanat.
6. Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw, yn dragwyddol,a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.
7. Ceraist gyfiawnder a chasáu drygioni;am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinioag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.
8. Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.
9. Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.
10. Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust:anghofia dy bobl dy hun a thŷ dy dad;
11. yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch,oherwydd ef yw dy arglwydd.
12. Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus,a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.
13. Cwbl ogoneddus yw merch y brenin,cwrel wedi ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,
14. ac mewn brodwaith yr arweinir hi at y brenin;Ar ei hôl daw ei chyfeillesau, y morynion;
15. dônt atat yn llawen a hapus,dônt i mewn i balas y brenin.
16. Yn lle dy dadau daw dy feibion,a gwnei hwy'n dywysogion dros yr holl ddaear.
17. Mynegaf dy glod dros y cenedlaethau,nes bod pobl yn dy ganmol hyd byth.