Y Salmau 66 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

I'r Cyfarwyddwr: Cân. Salm.

1. Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear;

2. canwch i ogoniant ei enw;rhowch iddo foliant gogoneddus.

3. Dywedwch wrth Dduw, “Mor ofnadwy yw dy weithredoedd!Gan faint dy nerth ymgreinia dy elynion o'th flaen;

4. y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen,ac yn canu mawl i ti,yn canu mawl i'th enw.”Sela

5. Dewch i weld yr hyn a wnaeth Duw—y mae'n ofnadwy yn ei weithredoedd tuag at bobl—

6. trodd y môr yn sychdir,aethant ar droed trwy'r afon;yno y llawenychwn ynddo.

7. Y mae ef yn llywodraethu â'i nerth am byth,a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd;na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn!Sela

8. Bendithiwch ein Duw, O bobloedd,a seiniwch ei fawl yn glywadwy.

9. Ef a roes le i ni ymysg y byw,ac ni adawodd i'n troed lithro.

10. Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw,ac yn ein coethi fel arian.

11. Dygaist ni i'r rhwyd,rhoist rwymau amdanom,

12. gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau,aethom trwy dân a dyfroedd;ond dygaist ni allan i ryddid.

13. Dof i'th deml â phoethoffrymau,talaf i ti fy addunedau,

14. a wneuthum â'm gwefusauac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.

15. Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau,a hefyd hyrddod yn arogldarth;darparaf ychen a bychod geifr.Sela

16. Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw,ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.

17. Gwaeddais arno â'm genau,ac yr oedd moliant ar fy nhafod.

18. Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon,ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando;

19. ond yn wir, gwrandawodd Duw,a rhoes sylw i lef fy ngweddi.

20. Bendigedig fyddo Duwam na throdd fy ngweddi oddi wrtho,na'i ffyddlondeb oddi wrthyf.