Y Salmau 82 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Salm. I Asaff.

1. Y mae Duw yn ei le yn y cyngor dwyfol;yng nghanol y duwiau y mae'n barnu.

2. “Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn,ac y dangoswch ffafr at y drygionus?Sela

3. “Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad,gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.

4. Gwaredwch y gwan a'r anghenus,achubwch hwy o law'r drygionus.

5. “Nid ydynt yn gwybod nac yn deall,ond y maent yn cerdded mewn tywyllwch,a holl sylfeini'r ddaear yn ysgwyd.

6. Fe ddywedais i, ‘Duwiau ydych,a meibion i'r Goruchaf bob un ohonoch.’

7. Eto, byddwch farw fel meidrolion,a syrthio fel unrhyw dywysog.”

8. Cyfod, O Dduw, i farnu'r ddaear,oherwydd eiddot ti yw'r holl genhedloedd.