Salm 93 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM XCIII

Dominus regnauit.

Moliant i allu Duw: yn erbyn y bobl a wrthwynebant awdwrdod.

1. Teyrnasu y mae yr Arglwydd,mewn ardderchowgrwydd gwisgodd:Ymwisgodd f’Arglwydd yn brydferth,a nerth yr ymwregysodd.

2. Fe a sicrhâodd sail y bydheb syflyd, yn ddihareb.Dy faingc erioed a ddarparwyd,ti wyd er tragwyddoldeb.

3. Y llifeiriaint, (fy Arglwydd) fainty llifeiriaint yn codi,Tyrfau a llif yn rhwygo’r llawr,a thonnau mawr yn coethi.

4. Cadarn yw tonnau y moroedd,gan dyrfau dyfroedd lawer.Cadarnach yw yr Arglwydd mau,yn nhyrau yr uchelder.

5. Dy dystiolaethau ynt siwr iawn:sef cyfiawn yw sancteiddrwydd:A gweddus yn dy dy di fydd,byth yn dragywydd f’Arglwydd.