Salm 80 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM LXXX

Qui regis Israel.

Gweddi at Dduw dros yr Eglwys, ar iddo barhau ei ddaioni a dechreuasei ef ynthi.

1. Clyw di fugail i Israel,sy’n arwain fel y defaidHil Jagof, a llewycha di,a’ steddi ar Gerubiaid.

2. Fel y gwelo Ephraim hyn,Beniamin a Manasses.Cyfod, cymorth a gwared ni,o’th fawr ddaioni cynnes.

3. Llewycha d’wyneb, dychwel ni,Duw, di a’n cedwi’n gyflym:

4. Duw y lluoedd, clyw ein gweddi,pa hyd y sorri wrthym?

5. Llewa’i bara, drwy wylo yn dost,a wnaethost di i’r eiddod:A rhoi iddynt ddagrau bob awr,drwy fesur mawr yn ddiod.

6. Duw i’n gelynion o bob parthrhoist ni yn warth i’n gwatwar:

7. Llewycha d’wyneb, dychwel ni,felly i’n cedwi’n gynnar.

8. Dugost o’r Aipht winwydden ir,rhoist iddi dir i dyfu:A’r holl genhedloedd o bob man,troist allan cyn ei phlannu.

9. Arloesaist y tir o’i blaen hi,a pheraist iddi wreiddio:

10. Llanwodd, cuddiodd bob bryn a llawrfel cedrwydd mawr yn brigo.

11. A’i hiraidd frig ystyn yr oeddhyd foroedd ac afonydd:

12. Pam y rhwygaist gae’r fâth ber lwyn,i bawb i ddwyn ei ffrwythydd?Pawb ai heibio yn tynnu ei grawn,pan oedd hi’n llawn ffrwyth arni:

13. A’r baedd o’r coed yn tirio’i llawr,a’r bwystfil mawr iw phori.

14. O Dduw y lluoedd, edrych, gwyl,a dychwel i ’mgledduY winllan hon a blennaist di,â’th law, a’i rhoddi ’dyfu.

15. Lle cadarnheist i ti dy hun,dy brif blanhigyn dedwydd:

16. Llygrwyd â’r cledd, a’r tân yn faith,a hyn o waith dy gerydd.

17. I gryfhau gwr dy ddehau law,boed drostaw dy fraich nerthol,Hwn a siccrheist i ti dy hun,sef dros fab dyn dewisol.

18. Tros hwn tra rhoddych di dy lawoddiwrthaw ni ddychwelwn:O Dduw, dadebra, bywha ni,ar d’enw di y galwn.

19. A dadymchwel nyni i fyw,o Arglwydd Dduw y lluoedd:Tywynna arnom d’wyneb-pryd,ni a gawn iechyd bythoedd.