Salm 139 Salmau Cân 1621 (SC)

SALM CXXXIX

Domine probasli.

Dafydd er mwyn ei lanhau ei hun, yn dangos nad oes dim yn guddiedig rhag Duw: a thrwy ddangos ei serch tuag at Dduw, y mae efe yn ymroi i fod yn elyn i’r rhai a wrthwynebant Dduw.

1. Arglwydd, manwl y chwiliaist fi,da i’m adwaeni hefyd:

2. Eisteddiad, codiad, gwyddost hyn,a’m meddwl cyn ei dwedyd.

3. Yr wyd ynghylch fy lloches i,a’m ffyrdd sydd itti’n hysbys:

4. Nid oes air nas gwyddost ei fodar flaen fy nhafod ofnys.

5. O’m hol ac o’m blaen i’m lluniaist,dy law a ddodaist arnaf:

6. Gwybodaeth ddieithr yw i mi,a’i deall hi nis medraf.

7. I ba le r’af fi i roi tro,i’mguddio rhag dy Yspryd?I ba le ffoaf rhag dy wydd,drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?

8. Os dringaf tua’r nefoedd fry,wyd yno i’th dy perffaith:Os tua’r dyfndwr, gostwng troyr wyt ti yno eilwaith.

9. Pe cawn adenydd borau wawr,a mynd i for mawr anial,

10. Yno byddai dy ddehau di,i’m tywys i a’m cynnal.

11. A phe meddyliwn, yr ail tro,ymguddio mewn tywyllwg,Canol y nos fel hanner dydd,mor olau fydd yn d’olwg.

12. Nid dim tywyllwch nos i tinag yw goleuni haf-ddydd:A’r ddau i ti maent yr un ddull,y tywyll a’r goleu-ddydd.

13. Da y gwyddost y dirgelwch mau,f’arennau a feddiennaist,Ynghroth fy mam pan oeddwn i,yno dydi a’m cuddiaist.

14. Cans rhyfedd iawn y gwnaethbwyd fi,a’th waith di sy ryfeddod:A’m henaid a wyr hynny’n ddaa hon a wna yt fowrglod:

15. Ni chuddiwyd fy ngrym rhagot ti,pan wnaethost fi yn ddirgel,Fel llunio dyn o’r ddaiar hon,o fewn pridd eigion isel.

16. Dy lygaid gwelsant fy nhrefn wael,cyn imi gael perffeith-lun:Roedd pob peth yn dy lyfr yn llawn,cyn bod yn iawn un gronun.

17. Mor anwyl dy feddyliau ym,mor fawr yw sum y rhei’ni:

18. Wrth fwrw, amlach gwn eu bodna’r tywod o rifedi.Myfyrio pan ddeffrowyf fi,’r wyf gyd’â thi yn gwblol.

19. O Dduw, ba achos yn dy lid,na leddid yr annuwiol?O Dduw pe cospid rhai o’r rhai’ny sydd yn arwain traha:Wrth y gwaedlyd fo gaid dwedyd,dydi dos oddiymma.

20. Y rhai am danad f’Arglwydd cu,sy’n treuthu pethau sccler:A’th elynion dibris eu llw,cymrasant d’enw’n ofer.

21. Ond câs yw gennif, o Dduw Ion,dy holl gaseion gwaedlyd:Ond ffiaidd gennyf fi bod dyn,a ai yn d’enw hefyd:

22. A llawn gâs y caseais hwynt,ynt fel ar bwynt gelynion.

23. O chwilia fi o Dduw yn hy,cei hynny yn fy nghalon.Duw prawf fy meddwl i’n fy mol

24. oes ffordd annuwiol genny:Gwel fi, tywys, dwg fi yn f’ol,dod ffordd dragwyddol ymy.